Ymateb y Llywodraeth: Cod Ymarfer ar Sicrhau Ansawdd a Rheoli Perfformiad, Uwchgyfeirio Pryderon a Chau Gwasanaethau, mewn perthynas â Gwasanaethau Gofal a Chymorth Rheoleiddiedig

 

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod ac yn derbyn y materion a godwyd. Er bod y pwyntiau yn golygu bod gofyn gwneud cywiriadau i'r Cod, mân bwyntiau drafftio yw'r rhain nad ydynt yn newid nac yn effeithio ar weithrediad nac effaith gyfreithiol y Cod ei hun.

 

Felly, mae'r Llywodraeth yn cynnig i'r Pwyllgor bod y cywiriadau a nodir isod yn cael eu gwneud mewn ymateb i'r pwyntiau a godwyd, cyn i'r Cod gael ei gyhoeddi. Mae’r Llywodraeth o’r farn bod y dull hwn yn un pragmataidd a chymesur, a fydd yn sicrhau bod y Cod yn cael ei gyhoeddi'n gywir heb oedi diangen.  

 

 

Pwynt craffu 1                     Bydd y canllawiau statudol Escalating Concerns with, and Closures of Care Homes Providing Services for Adults yn cael eu diffinio fel “Canllawiau 2009” ym mharagraff 1.1, ac yn lle’r teitl llawn ym mharagraff 1.2 rhoddir “Canllawiau 2009”.

 

Pwynt craffu 2                     Bydd y cyfeiriad at “1.2(b)” ym mharagraff 1.3 yn cael ei ddiwygio i ddweud “paragraff 1.2(b)”.

 

Pwynt craffu 3                     Bydd y cyfeiriad ym mharagraff 1.4 at “Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014” a'r cyfeiriad ym mharagraff 1.5 at “Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006” yn cael eu newid i “Ddeddf 2014” a “Ddeddf 2006 “ yn y drefn honno.

 

Pwynt craffu 4                     Bydd y cyfeiriad ym mharagraff 1.6 at “adran 147” yn cael ei ddiwygio i ddweud “adran 147 o Ddeddf 2014”. 

 

Pwynt craffu 5                     Ym mrawddeg olaf paragraff 1.14 yn y testun Cymraeg, bydd y geiriau “a gwerthuso” yn cael eu dileu.

 

Pwynt craffu 6                     Bydd paragraff 3.1 yn cael ei ddiwygio i newid y cyfeiriad at “darparwr gwasanaeth cofrestredig” i “darparwr gwasanaeth”.  Bydd cyfeiriadau eraill yn y Cod at “darparwr gwasanaeth cofrestredig” yn cael eu diwygio i “darparwr gwasanaeth”.      Bydd y geiriau “sydd wedi’i gofrestru o dan Ddeddf 2016” yn nhrydydd pwynt bwled paragraff 3.1 yn cael eu dileu.           

 

Pwynt craffu 7                     Ym mrawddeg gyntaf paragraff 3.4 yn y testun Cymraeg, bydd y geiriau “ddarparwyr cofrestredig” yn cael eu newid i “ddarparwyr gwasanaethau” i adlewyrchu'r testun Saesneg diwygiedig a fydd yn dweud “Service providers”.

 

Pwynt craffu 8                     Yn ail frawddeg paragraff 3.5 yn y testun Cymraeg, bydd y geiriau “er lles” yn cael eu newid i “er llesiant”.                             

Pwynt craffu 9                     Bydd diffiniad o “rheolwr cofrestredig” yn cael ei ychwanegu at yr Eirfa i egluro ystyr y term.

 

Pwynt craffu 10                  Bydd y term “siart lif” yn cael ei ychwanegu ym mharagraffau 4.17 a 5.18 yn y testun Cymraeg i gyfleu'r un ystyr â'r testun Saesneg (“flowchart”).

 

Pwynt craffu 11                   Bydd diffiniad o “gweithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig” yn cael ei ychwanegu at yr Eirfa i egluro ystyr y term,

 

Pwynt craffu 12                  Ym mrawddeg gyntaf paragraff 6.3 yn y testun Cymraeg, bydd y gair “safonau” yn cael ei newid i “perfformiad” i gyfateb i'r testun Saesneg.

 

Pwynt craffu 13                  Yn ail frawddeg paragraff 6.7 yn y testun Cymraeg, bydd y geiriau “gan gorff comisiynu allanol” yn cael eu newid i “gan gyrff comisiynu eraill” i gyd-fynd â'r testun Saesneg.

 

Pwynt craffu 14                  Yn ail frawddeg paragraff 7.5 yn y testun Cymraeg, bydd y geiriau “ar gyfer cau” yn cael eu newid i “ar gyfer ymateb i gau” i gyfateb i'r testun Saesneg.

 

Pwynt craffu 15                  Ym mrawddeg gyntaf paragraff 7.8 yn y testun Cymraeg, bydd y gair “canfod” yn cael ei newid i “nodi” o ran cysondeb. 

 

Pwynt craffu 16                  Ym mrawddeg gyntaf paragraff 7.9 yn y testun Cymraeg, bydd y gair di-dâl” yn cael ei ddileu fel bod y testun yn cyfateb i'r testun Saesneg.

 

Pwynt craffu 17                   Yn y testun Cymraeg, yn Atodiad A, ar dudalen 25, yn y siart lif, yn yr ail flwch i lawr yn y canol sydd â chefndir llwydfelyn, ychwanegir y gair “gwasanaeth” ar ôl “darparwr” mewn dau le, i gyfateb i'r term Saesneg “service provider”.

 

Pwynt craffu 18                  Yn y testun Cymraeg, yn Atodiad A, ar dudalen 25, yn y siart lif, yn y pedwerydd blwch i lawr yn y canol sydd â chefndir llwydfelyn, bydd y testun yn cael ei ddiwygio fel ei fod yn cyfateb i'r testun Saesneg “risks, breaches in required standards and agreed actions”. Bydd fformat y blwch yn cael ei ddiwygio i sicrhau cysondeb rhwng y testun yn y ddwy iaith.

 

Pwynt craffu 19                  Yn Atodiad C, ar dudalen 27, yn y siart lif, yn y blwch ar waelod y dudalen, bydd y geiriau “a Chymorth” yn cael eu hychwanegu at y testun Cymraeg i gyd-fynd â'r testun Saesneg.

 

Pwynt craffu 20                  Yn Atodiad D, ar dudalen 30, yn y siart lif, yn y blwch ar waelod y dudalen sydd â chefndir glas golau, ychwanegir y gair “Cau” ar ôl “Tîm” yn y testun Cymraeg fel ei fod yn mynegi'r un ystyr â'r term Saesneg “Closure Team”.

                                   

 

Bydd materion fformadu a materion golygyddol bychain yn cael eu cywiro hefyd cyn i'r Cod Ymarfer gael ei ddyroddi.